Ynglŷn â'r Ganolfan

Wedi'i lleoli yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae'r Ganolfan Meddwl Materol yn blatfform ar gyfer ymchwil rhyngddisgyblaethol sy'n ymwneud â chwestiynau ynghylch materoldeb, mater a gwneud. Mae'n ymateb yn benodol i'r 'tro materol' diweddar mewn theori ac ymarfer, gan bwysleisio'r angen i feddwl yn wahanol am y byd yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, difodiant rhywogaethau, lleihau ar adnoddau ac anghydraddoldebau cymdeithasol.

Lansiwyd y Ganolfan yn 2021 gyda sgwrs gan yr ysgolhaig dawns o Galiffornia, yr Athro Carrie Noland, ar waith Merce Cunningham. Gallwch wylio'r recordiad ar ein tudalen Digwyddiadau. StA ninnau’n dal i fod yng nghysgod pandemig Covid-19, bu’n rhaid cynnal llawer o'n sgyrsiau ar-lein, ond roedd hyn hefyd gyda'r bwriad o wella hygyrchedd a meithrin cyswllt â chynulleidfa ryngwladol ehangach (gan gofio bod Aberystwyth yn eithaf anodd ei chyrraedd i lawer o bobl!).

Rydym wedi ymrwymo i greu deialog rhwng cynulleidfaoedd academaidd ac anacademaidd, ac mae ein digwyddiadau yn agored i bawb. Rydym yn parhau i gynnal digwyddiadau ar-lein, wyneb yn wyneb a hybrid, cynnal gweithdai ymarferol a chomisiynu artistiaid ac awduron i ymateb i thema materoldeb.

Rydym yn dod ag artistiaid ac ysgolheigion ynghyd o ystod eang o ddisgyblaethau i drafod sut y gallai dulliau newydd o gynrychioli arwain at fwy o ymwybyddiaeth ynghylch y cydberthynas rhwng y dynol a’r tu hwnt. Ein nod yw agor gofod i feddwl am sut y daw pethau materol yn bwysig mewn ystod o gyd-destunau cymdeithasol-ddiwylliannol ac eco-wleidyddol.

Beth yw meddwl materol? Does gennym ni ddim yr atebion, ond rydym yn eich gwahodd ar ein taith i’w canfod.

Centre Director

Kim Knowles
Kim Knowles
(Yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu)

Rhaglen MA gysylltiedig:

MA Gwneud Ffilmiau Dogfen Tirwedd ac Ecoleg

Ymchwilwyr PhD cysylltiedig:

Paul Barrett

Ruth Hogg

Bethan John

aim king

Phil Layton

James Staunton-Price

Aelodau Cyswllt

Margaret Ames

Simon Banham

Greg Bevan

Berit Bliesemann de Guevara

Mike Brookes

Gareth Evans

Andrew Filmer

Susan Forster

Mererid Hopwood

Gareth Hoskins

Matthew Jarvis

Ffion Jones

Lara Kipp

Milja Kurki

Roger Owen

Louise Ritchie

Julian Ruddock

Mars Saude

Miranda Whall

Piotr Woycicki