Labordy Ffilm Aber
Wedi'i leoli yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, mae Labordy Ffilm Aber yn labordy delweddau symudol ffotocemegol ar gyfer ffilm 16mm wedi'i wneud â llaw, gyda phwyslais ar arferion ecolegol yn yr ystafell dywyll.

Mae'r labordy yn cefnogi myfyrwyr, ymchwilwyr, gwneuthurwyr ffilmiau ac artistiaid sy'n gweithio ym meysydd dogfen greadigol, ffilm a chyfryngau arbrofol, perfformio a gosod sinema estynedig.
Mae cyfarpar y labordy yn cynnwys:
Camerâu Bolex 16mm
Camera super 16mm sydd hefyd yn recordio sain
Camera Ariflex 16mm
Camerâu Super 8
Tanciau Lomo ar gyfer datblygu â llaw
Bwrdd golygu Steenbeck
Uchafbwyntiau Offer
Argraffydd Optegol JK
Mae’r ddyfais hon yn ddarn allweddol o offer wrth ddatblygu estheteg ffilm avant-garde, gan ei bod yn caniatáu i ddelweddau ar ffilm Super 8 a 16mm gael eu hail-ffilmio, a datblygu effeithiau arbennig analog.
Argraffydd Cyswllt Steenbeck
Wedi'i addasu gyda blwch golau manwl gan Nanolab Awstralia, mae'r peiriant hwn yn gwneud printiau cyswllt Du a Gwyn a lliw i'w taflunio.
Gofod prosiect pwrpasol ar gyfer artistiaid gwadd
Gall Labordy Ffilm Aber hwyluso hyfforddiant ffilm ffotocemegol i ymchwilwyr ac artistiaid (y tu allan i'r tymor) a chydweithio â phrosiectau a ariennir gan gyrff addysgol neu sefydliadau celfyddydol i gefnogi gwaith dan arweiniad artistiaid. Gallwn ddarparu lle a chymorth technegol i chi drwy gydol eich ymweliad. Am ragor o wybodaeth gweler ein tudalen Preswyliadau.
Sganiwr Cintel Blackmagic
Sganio ffilm 16mm mewn diffiniad uchel er mwyn ffilmio a golygu ffilm ddigidol.
Artistiaid gwadd blaenorol
Vicky Smith: vickysmith.blog
Louisa Fairclough: louisafairclough.co.uk
Laura Cooper: lauracooper.co.uk
Patti Gaal-Holmes: pattigaalholmes.com
Sarah Durcan: www.ncad.ie/directory/view/sarah-durcan
Mae Labordy Ffilm Aber yn cael ei gynnal gan Mars Saude. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Mars ar: mad117@aber.ac.uk.

