Mae'r Ganolfan Meddwl Materol yn arddangos prosiectau ymarfer ac ymchwil unigol gan staff, cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr presennol ac artistiaid a gomisiynwyd sy’n gweithio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol ac ysgolheigaidd. Rydym yn cefnogi prosiectau sy'n ymwneud â'r diddordebau sydd wrth wraidd y Ganolfan: sut y gallai dulliau newydd o gynrychioli arwain at fwy o ymwybyddiaeth ynghylch y cydberthynas rhwng y dynol a’r tu hwnt, sut y gall pethau materol fod yn bwysig mewn ystod o gyd-destunau cymdeithasol-ddiwylliannol ac eco-wleidyddol, a beth yw meddwl materol? Mae’r Ganolfan yn arbennig o awyddus i gefnogi prosiectau sydd wrthi'n cael eu datblygu h.y. prosiectau sy'n gallu symud ymlaen yn gynyddrannol o fewn y platfform digidol hwn.