Preswyliadau

Mae'r Ganolfan Meddwl Materol yn cynnal rhaglen breswyliadau mewn partneriaeth â Labordy Ffilm Aber a'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae preswyliadau yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i agor gofod rhyngddisgyblaethol i ymdrin â chwestiynau sy’n ymwneud â materoldeb, mater a gwneud. Mae gennym ddiddordeb hefyd yn sut y gall arferion beirniadol a chreadigol lywio ei gilydd a chreu dealltwriaeth newydd.

Mae’r preswyliadau ar gyfer ymchwil, datblygu ymarfer, a datblygu gwaith newydd neu brosiect presennol.

Rydym yn croesawu ymholiadau gan artistiaid, cynulliadau, a chwmnïau sy'n gweithio ym meysydd theatr, perfformio, dylunio perfformiadau, gosodwaith, ffilm a'r cyfryngau.

Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig

Gallwn gynnig gofod, cyngor a chefnogaeth arbenigol, a mynediad at adnoddau technegol.

Mae gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu enw da yn rhyngwladol am greu perfformiadau safle-benodol a chyfryngol, ar gyfer ymarfer ffilm analog ac arbrofol, ac ar gyfer ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer. Mae gennym bartneriaeth agos â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac rydym wedi ein lleoli yn agos iawn atynt.

Wedi’i lleoli rhwng Mynyddoedd Cambria a Bae Ceredigion, mae Aberystwyth yn cynnig amgylchedd naturiol a diwylliannol ysbrydoledig ac mae’n ganolbwynt ar gyfer arbrofi a chreu.

Rydym yn eich annog i gysylltu â ni yn anffurfiol ar gam cynnar i drafod yr hyn yr hoffech ei wneud a beth yw eich anghenion. Ar hyn o bryd nid ydym yn gallu cynnig cyllid ar gyfer teithio, llety na ffi i gefnogi eich gwaith. Gallwn ddarparu llythyrau o gefnogaeth ar gyfer ceisiadau am gyllid a darparu costau ariannol ar gyfer unrhyw gymorth mewn nwyddau a ddarperir trwy breswyliad.

Yr hyn rydyn ni'n ei ofyn

Yn rhan o unrhyw breswyliad, gofynnwn i chi gynnig rhannu eich ymarfer neu ddangos y gwaith sydd gennych ar y gweill i gydweithwyr sy'n gysylltiedig â'r Ganolfan. Lle bo’n briodol, efallai y byddwn yn gofyn i chi rannu gwybodaeth am eich ymarfer a'ch gyrfa gyda myfyrwyr yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Gofynnwn hefyd i chi gydnabod cefnogaeth y Ganolfan a'r Adran mewn unrhyw waith cyhoeddus sy'n deillio o'ch preswyliad.

Sut i ymholi

Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau cychwynnol am breswyliadau at material-thinking@aber.ac.uk

Preswyliadau blaenorol

Laura Cooper

Treuliais amser yn ffilmio'r môr gyda chamera Bolex a ffilm 16mm du a gwyn yn ystod fy amser yn Labordy Aber yn ogystal â phrosesu, sganio, argraffu a thaflunio’r lluniau fideo hyn, yr wyf yn gobeithio eu cynnwys yn fy mhrosiect ffilm Mountain Whale.

Dechreuodd y prosiect hwn yn ystod fy amser ar raglen breswyl ARCUS yn Japan, lle bûm yn gweithio gyda grŵp o helwyr baeddod gwyllt oedrannus yn Yasato, Ibaraki. Bûm yn ffilmio gweithgarwch dyddiol yr helwyr wrth iddynt ddal baeddod gwyllt yn y coedwigoedd bambŵ. Dysgais fod y Baedd Gwyllt hefyd yn cael ei alw'n Forfil y Mynydd neu Yama-kujira yn Japanaeg. Esblygodd y term barddonol hwn yn ystod y cyfnod Edo i osgoi’r cyfreithiau hela a oedd yn condemnio bwyta cig. Caniatawyd bwyta pysgod, fodd bynnag, ac roedd morfilod yn cael eu camgymryd am bysgod bryd hynny. Mae'r elfen dwyllodrus yn yr enw yn pwysleisio'r twyll a’r dryswch yn y broses guddliwio. Wrth i'r môr ddechrau gorlifo rhannau o'r ffilm, mae’n mynd yn fwyfwy anodd gwahaniaethu rhwng y baeddod a’r morfilod, a hefyd y lleoliadau yn Japan a’r DU. Mae'r prosiect hwn yn parhau fy ymchwil hirdymor i ddeinameg gwrthgyferbyniol gofal a goruchafiaeth sy'n rhan annatod o’r berthynas rhwng pobl ac anifeiliaid, ac mae'n rhan o fy mhrosiect ymchwil PhD seiliedig ar ymarfer, Midlands 4 Cities (M4C), yn Ysgol Gelf Birmingham.