Beth yw meddwl materol? Beth mae’n ei olygu i feddwl gyda’r byd materol, trwy’r byd materol, ac am y byd materol? Yng ngham cyntaf ein taith trwy feddwl materol, fe wnaethom ddod ag ysgolheigion ac ymarferwyr creadigol o wahanol adrannau ar draws Prifysgol Aberystwyth at ei gilydd. Roedd hyn ar ffurf tri seminar ymchwil cydweithredol a gynhaliwyd ar-lein rhwng mis Chwefror a mis Mai 2022 (gweler ein tudalen Digwyddiadau ar gyfer y recordiadau). Gofynnon ni i bob cyfranogwr siarad am yr hyn y mae 'meddwl materol' yn ei olygu iddyn nhw yn eu hymchwil a/neu eu hymarfer creadigol. Yna addaswyd y cyflwyniadau ar gyfer gofod ar-lein. Mae hwn yn brosiect parhaus, a bydd fersiynau pellach yn cael eu hychwanegu wrth iddynt ddatblygu. Os oes gennych syniad i'w ychwanegu at y wefan, cysylltwch â ni.
Hawlfraint 2022 Y Ganolfan Meddwl Materol | Dyluniad y safle: Chris Iliff | Hawlfraint Delweddau Eamon Bourke







